
Ynys y Barri, Bro Morgannwg, Cymru. Ble i fynd, beth i weld a lle i aros yng Nghymru. Trefi a phentrefi Cymru
Cartref >
Enw: Ynys y Barri |
Enw Arall: Barry Island |
Enw Arall: |
Beth sy'n dod i'ch meddwl wrth glywed enw Ynys y Barri? Reidiau
ffair, 'candy floss', arcêd difyrrwch, Cyrchfan Gwyliau Butlin's, bwcedi a
rhawiau, gwyliau ar draeth tywodlyd a nofio mewn môr glas cynnes...wel, fe
wnawn ni basio ar y rhan 'cynnes'! Ond mae Ynys y Barri yn esiampl o'r holl
hwyl rydych yn cael mewn ffair a gwyliau traddodiadol gyda'r holl deulu. Mae
pethau wedi newid dros y blynyddoedd, mae'r cyrchfannau gwyliau wedi hen fynd
ac felly hefyd mae'r ymwelwyr. Ond mae'r Parc Pleser dal i fyw ac mae traeth
Bae Whitmore hefyd. Efallai mai nifer yr ymwelwyr ar y tywod wedi teneuo ond
o leiaf byddwch yn ffeindio lle ar gyfer eich cadair ac mae yna ddigonedd o
le ar gyfer y chwaraeon allanol sy'n boblogaidd heddiw. Heblaw am wyliau traddodiadol
i'r teulu, mae Ynys y Barri hefyd yn darparu ar gyfer beistonnau, hwylfyrddio,
caiacio môr, pêl foli...maen nhw i gyd angen lle ar dywod Bae Whitmore.
Cymru.eu.com, lle allwch ffeindio gwybodaeth ar drefi a pentrefi yng Nghymru.