
Y Bont-faen, Bro Morgannwg, Cymru. Ble i fynd, beth i weld a lle i aros yng Nghymru. Trefi a phentrefi Cymru
Cartref >
Enw: Y Bont-faen |
Enw Arall: Cowbridge |
Enw Arall: |
Mae'r Bont-faen yn dref farchnad bert yn ardal wledig a hyfryd
Bro Morgannwg, De Cymru, tua 13 milltir i'r gorllewin o Gaerdydd. Yn wir, mae'n
lleoliad heddychlon ond mae ei agosrwydd i Gaerdydd, Abertawe a gorynys y Gŵyr
yn gwneud Y Pont-faen yn fan syniadol ar gyfer archwilio De Cymru a phrifddinas
Cymru.| Er ei fod yn dref fach mae'r Pont-faen yn dal gen i fri am geinder
a ffasiwn, gan fostio siopau dillad bendigedig; cymrwch dro ar hyd y stryd
fawr i ffeindio tai hyfryd a hanesyddol. Mae'r Pont-faen yn un o'r unig drefi
canoloesol yng Nghymru sydd gen i waliau yn ei hamgylchu. Mae canol y dref
dal wedi ei drefnu fel ei gynllun canoloesol, gyda rhannau o waliau'r dref,
a giât y de, dal i sefyll. Credwyd fod y Rhufeiniaid wedi sefydlu un o'r trefedigaethau
cyntaf ym Mhont-faen, gan adeiladu amddiffynfa fach yma yn ystod y ganrif 1af.
Datblygodd hyn i mewn i dref erbyn y 4ydd ganrif ac mae cloddio archeolegol
diweddar wedi darganfod creiriau Rhufeinig yn ogystal â seiliau nifer o strwythurau
Rhufeinig gan gynnwys tŷ bath.| Yn ystod yr 13eg ganrif roedd Syr Risiard de
Clare, Arglwydd Glamorgan, wedi caniatáu'r dref ei siarter cyntaf ac erbyn
1266 roedd waliau'r dref wedi ei sefydlu. Mae Amgueddfa Y Bont-faen wedi ei
leoli yn neuadd y dref, adeilad sy'n dyddio yn ôl efallai i gyfnod Elisabeth,
ac mae'r stryd fawr yn cynnwys nifer o dai Sioraidd, gan gynnwys tai trefi
oedd ers talwm wedi bod yn gartrefi i deuluoedd pwysig.| Heddiw mae'r Pont-faen
yn dal Marchnad Ffermwyr ar ddydd Sadwrn o bob blwyddyn a phob mis Hydref mae
yna ŵyl bwyd a diod. Dros benwythnos yr Ŵyl, mae'r holl dref yn suo gydag egni'r
masnachwyr, ymwelwyr a thrigianwyr sy'n ymuno a'r dathliadau. Mae adlonwyr
stryd a cherddoriaeth yn ychwanegu i awyrgylch y ffair. Mae ymwelwyr yn cael
eu gwahoddi i archwilio'r strydoedd a'r alion am siopau arbennig a bu nifer
o siopau yn dal blasiadau a fu rhai eraill yn darparu gwin wrth i chi edrych
o gwmpas. Rydych yn gallu ffeindio digonedd o dafarnau a lletyau yn y dref
ac efallai fu nhw'n ymuno a'r dathliadau gyda chwrw, cerddoriaeth ac adloniant
y stryd. Ar gyfer mwy o fanylion ar yr Ŵyl Bwyd a Diod ffoniwch 07 875 290
428 (2008).
Cymru.eu.com, lle allwch ffeindio gwybodaeth ar drefi a pentrefi yng Nghymru.